Cartref

Mae prosiect ACTION yn helpu Mentrau Cymunedol a Chymdeithasol i dyfu drwy atgynhyrchu syniadau da, cymorth i gymheiriaid a datblygu ‘rhyddfreiniau cymdeithasol’. Mae partneriaid y prosiect, sef Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Mentrau Gwledig Dunhill Cyfyngedig, yn ceisio adeiladu ar ein cefndiroedd yn y sectorau Menter Gymunedol a Chymdeithasol, er mwyn creu cysylltiadau cryf a dod o hyd i ffrydiau cynhyrchu refeniw cynaliadwy i’r dyfodol ar gyfer eu priod gymunedau.

Yn fwy na dim, mae prosiect ACTION eisiau creu cysylltiadau cryf â mentrau cymunedol a chymdeithasol yn rhanbarthau peilot y prosiect, sef Sir Gaerfyrddin a Swydd Waterford. Gall ACTION wneud y canlynol:-

  • Cynorthwyo eich menter gymdeithasol wrth adnabod meysydd lle mae angen yn y farchnad neu gyfleoedd masnachu yn y rhanbarth partner.Darparu gweithdai gwybodaeth ar eich cyfer, er mwyn ymchwilio i’r cyfleoedd y gall ‘rhyddfreinio cymdeithasol’ eu cynnig i’ch sefydliad.
  • Cynorthwyo eich menter gymdeithasol wrth adnabod ac amlygu ffynonellau incwm cynaliadwy.
  • Rhoi cymorth a chyfarwyddyd i’ch helpu i greu cytundeb partneriaeth neu gydweithredu sydd o fudd i’r ddwy ochr gyda sefydliad perthnasol yn yr ardal bartner.
  • Cynorthwyo eich sefydliad wrth gynllunio, dilyn a chyfuno modelau atgynhyrchu.

Mae’r prosiect yn bwriadu bod yn ganolbwynt yn y priod gymunedau i ddogfennu astudiaethau achos, trosglwyddo arferion gorau ac, yn y pen draw, trefnu’r gwaith atgynhyrchu, rhyddfreinio cymdeithasol a’r gwaith partneriaeth, a fydd nid yn unig yn helpu cynaliadwyedd y mentrau cymunedol a chymdeithasol presennol, ond yn helpu i gynyddu’r difidend cymdeithasol y gall y sefydliadau hyn ei gynnig.

Mae prosiect ACTION yn bwriadu bod yn fenter drawsffiniol wirioneddol gynaliadwy ac mae ganddo dîm prosiect penodedig sy’n barod i weithio gyda’ch sefydliad di-elw.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig i chi yw dull gwirioneddol wahanol o ran gweithio tuag at gynaliadwyedd eich sefydliad di-elw yn y dyfodol. Yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi yw uchelgais i ymestyn ‘budd cymdeithasol’ eich sefydliad y tu hwnt i’ch ardal bresennol a meddwl agored (mae paned bob amser yn braf hefyd!).

Mae Prosiect ACTION yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), drwy Raglen Cymru ac Iwerddon (INTERREG 4A).

buy runescape gold